Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Ionawr 2025
Amser:
09.01 -
09.40
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Matthew Richards, Cyfarfwyddwr Business Y Senedd Dros Dro Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Lisa Griffiths, Clerc Gweithdrefnau, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
· Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Tyfu'r Diwydiant Coed yng Nghymru: Swyddi a Thwf Gwyrdd (45 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) (15 munud) wedi’i ddwyn ymlaen o 28 Ionawr
Dydd Mawrth 28 Ionawr 2025
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y
Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) (15 munud)
wedi’i ddwyn ymlaen i 21
Ionawr
Holodd Paul Davies a fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu ar glefyd y traed a'r genau yn dilyn yr achosion diweddar yn yr Almaen. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n trafod y mater gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 5 Chwefror 2025 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Y Cyflenwad o Dai Cymdeithasol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adborth a gafwyd i ddau ymgynghoriad. Cyflwynodd y Llywydd yr eitem a'r dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys nifer o gwestiynau a phryderon ymarferol a godwyd mewn tystiolaeth a chan aelodau o Fforwm y Cadeiryddion yn ystod eu trafodaethau ar y cynnig.
Dywedodd y Trefnydd a Heledd Fychan fod eu grwpiau hwy ill dwy yn cefnogi cyflwyno darpariaethau sy'n galluogi rhannu swydd cadeirydd pwyllgor. Dywedodd Paul Davies fod ei grŵp yn gwrthwynebu cyflwyno rhannu swydd cadeirydd pwyllgor ac y byddai'n cefnogi gwaith o ddatblygu model Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yn lle hynny.
Ar ôl ystyried safbwyntiau a gafwyd o ran terminoleg, cytunodd mwyafrif y Rheolwyr Busnes y dylid parhau i ddefnyddio'r term 'rhannu swydd' i ddisgrifio'r cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar faterion a godwyd gan y Comisiynydd Safonau yn ei gyflwyniad. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i gyngor pellach gael ei ddarparu ar opsiynau ar gyfer telerau a hyd cynllun treialu arfaethedig, gan gynnwys a ddylid cyfyngu ar nifer y pwyllgorau y gallai swydd cadeirydd gael ei rhannu yn ystod y cyfnod treialu.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y materion hyn ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol a thrafod gyda'u grwpiau, cyn datblygu cynnig terfynol.